Tom Basher
Ymgynghorydd: Y Dyniaethau
Profiad
Mae Tom wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol ers 2019 fel ymgynghorydd ag arbenigedd mewn daearyddiaeth, y dyniaethau, rhifedd a dysgu awyr agored. Mae hefyd yn cefnogi wrth ddarparu’r rhaglenni arweinyddiaeth ac ANG. Mae Tom yn cefnogi’r tîm mathemateg a rhifedd â’r ddarpariaeth dysgu proffesiynol rhifedd.
Mae Tom wedi gweithio ym maes addysg er 1998 a threuliodd 20 mlynedd yn dysgu daearyddiaeth a chyrsiau BTEC mewn ysgol uwchradd yn Sir Gâr. Ef oedd cydlynydd Gwobr Dug Caeredin yr ysgol ac mae’n dal i wirfoddoli fel asesydd.
Mae wedi arholi ar lefel TGAU am 18 mlynedd gyda’r OCR a CBAC. Treuliodd Tom 10 mlynedd hefyd yn cefnogi gwaith Uned Addysg Gwyddorau’r Ddaear ym Mhrifysgol Keele fel hwylusydd. Cwblhaodd ei ddiploma Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn 2019.