Dyfed Williams
Ymgynghorydd: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Cymraeg)
Profiad
Ymunodd Dyfed â thîm Partneriaeth ym mis Medi 2023 ac mae’n cefnogi Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu fel Maes Dysgu a Phrofiad a llythrennedd ysgol gyfan. Mae’n cefnogi cynnydd â llythrennedd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a’r rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr Cymraeg mewn ysgolion uwchradd.
Mae Dyfed wedi gweithio ym maes addysg er 2006. Bu’n dysgu Cymraeg CA3-5 mewn ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yng Nghonwy am 17 flynedd ac fel Pennaeth Cyfadran am 14 o’r rhain. Mae Dyfed wedi bod yn Brif Arholwr Cymraeg ail iaith CBAC er 2017 a bu’n fentor Cymraeg yr ysgolion arweiniol ar gyfer myfyrwyr HCA ym Mhrifysgolion Bangor a Chaer am 3 blynedd.