Alun Parry
Cydlynydd Dysgu Digidol a Systemau
Profiad
Mae Alun wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol ers 2017 ac ar hyn o bryd ef yw Cydlynydd Dysgu Digidol a Systemau Partneriaeth. Mae’n eistedd ar y gweithgor traws-ranbarthol ar gyfer dysgu digidol ac mae’n gyfrifol am gydlynu cefnogaeth ranbarthol ar gyfer dysgu digidol / codio.
Mae Alun hefyd yn gyfrifol am gydlynu gwefan, newyddlen a systemau mewnol Partneriaeth.
Mae wedi gweithio ym myd addysg er 2001 ac mae wedi dysgu TGCh a gwyddor cyfrifiaduron mewn 3 ysgol uwchradd. Mae gan Alun brofiad fel pennaeth adran TGCh / Cyfrifiadura ac fel Arweinydd Cynnydd CA4.
Mae Alun wedi arholi TGCh a Chyfrifiadura gyda CBAC.