Julian Nicholds

Sefydlu a Gyrfaoedd Cynnar


Profiad

Mae Julian wedi gweithio ym maes gwella ysgolion rhanbarthol ers 2017 pan gafodd ei benodi’n arweinydd dysgu.  Julian bellach yw’r arweinydd rhanbarthol ar gyfer ANG ac athrawon gyrfa gynnar ar draws y rhanbarth gan weithio gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod athrawon newydd yn cael rhaglen sefydlu gyson o ansawdd uchel sy’n cael ei chyflwyno o fewn Partneriaeth. Julian hefyd yw'r cynghorydd y gall ysgolion gysylltu ag ef ynghylch amrywiaeth o fewn y cwricwlwm. Mae’n cynrychioli Partneriaeth mewn cyfarfodydd cenedlaethol gyda DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth) ac yn sicrhau bod pob ysgol a lleoliad ar draws y rhanbarth yn cael ystod eang o gyfleoedd i ymwneud â’r gwaith hwn.

Mae Julian wedi gweithio ym maes addysg ers 2003 gan gymhwyso fel athro yn 2008 ac mae wedi arwain adrannau’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol mewn ysgolion yn Llundain ac yn Birmingham.  Mae'n arholwr profiadol mewn Seicoleg Safon Uwch. Mae Julian yn gadeirydd llywodraethwyr mewn ysgol gynradd ac yn 2024 cwblhaodd radd MA (Addysg) gan ganolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol a chefnogi dysgwyr sydd wedi profi trawma cynnar.

 


Arweinyddiaeth a Llwybrau Gyrfa

Llusgo