Greg Morgan

Arweinydd Gweithredol


Profiad

Ar hyn o bryd Greg yw’r Arweinydd Gweithredol gyda chyfrifoldeb am oruchwylio gwaith cyflawni y tîm cynghori ar draws dwy flaenoriaeth Cynllun Busnes Partneriaeth. Mae hefyd yn cysylltu'n rheolaidd â thimau cynghori Awdurdodau Lleol i sicrhau dull cydlynol o weithio mewn partneriaeth ac mae’n monitro gwariant grant i sicrhau gwerth am arian.

Mae wedi gweithio ym maes gwella ysgolion ers 2004 pan gafodd secondiad i awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin fel athro ymgynghorol ar gyfer TGCh ac wedi hynny aeth ymlaen i fod yn gynghorydd cyswllt ar gyfer TGCh. Yn 2015, cafodd ei benodi yn arweinydd rhanbarthol ar gyfer dysgu digidol. Mae Greg wedi gweithio ym myd addysg ers bron i 30 mlynedd ac mae wedi dysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Llusgo